Erthygl 2

Hunaniaeth - Hil, Crefydd, Diwylliant a Chenedligrwydd

Awdur: Neera Vyas

Labeli

Rwy'n cofio fy merch (8 oed ar y pryd) yn gofyn i mi, "Beth ydw i?" a fy ateb i oedd, "Person anhygoel." Fodd bynnag, roedd ganddi fwy o gwestiynau: "Ydw i'n Gristion? Ydw i'n Hindŵ?"

Atebais, "Gelli fod y naill neu'r llall, neu'r ddau, neu'r un ohonynt, cariad – gelli arddell unrhyw grefydd rwyt ti’n ei dewis neu beidio – pan fyddi di’n teimlo'n barod, mae hynny i fyny i ti."

"Ond roedden nhw'n gofyn yn yr ysgol a dwi ddim yn gwybod," oedd ei hateb.

Efallai bod hyn yn tynnu sylw at gymaint mae cymdeithas eisiau i ni gael un label y byddwn yn cadw ato. Rydw i'n dod o deulu Hindŵaidd ac mae ei thad yn Gristion Anglicanaidd. Fe wnaethon ni fagu ein merch i brofi'r ddwy ffydd – mynychu'r eglwys sy'n gysylltiedig â'i hysgol sef Yr Eglwys yng Nghymru, dathlu gwyliau Hindŵaidd a chael delweddau o dduwdodau o amgylch ein cartref. ⁠ Fe wnaethom hefyd geisio ei gwneud yn glir bod cael ffydd neu beidio yn ddewis personol, felly er ei bod hi'n fwy agored i Gristnogaeth a Hindŵaeth, nid oedd unrhyw ddisgwyliadau arni i ddilyn y naill ffydd na'r llall.

Fy merch mewn Gwasanaeth y Geni yn yr Eglwys ac yn dathlu Divali (gŵyl Hindŵaidd)

Beth mae'n ei olygu i 'berthyn' i ffydd neu grefydd?

Nid yw pawb yn teimlo fel hyn. I lawer o bobl, mae ffydd (neu grefydd) yn rhywbeth rydych chi'n cael eich geni iddo ac sy'n eich diffinio chi, hyd yn oed i'r pwynt bod pobl yn cael eu halltudio ac mewn rhai achosion eithafol, eu niweidio'n gorfforol am wrthod crefydd, neu briodi rhywun y tu allan i'r ffydd. ⁠ ⁠Efallai y byddent yn dadlau bod fy safbwyntiau yn dibrisio cred grefyddol trwy ei gwneud yn rhywbeth 'pic a mix' pan ,ewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â threftadaeth.

Ar yr un pryd, mae rhai pobl yn barod i newid eu crefydd neu ymrwymo i ffydd er mwyn priodi rhywun maen nhw'n ei garu.

Felly, beth mae perthyn i grefydd yn ei olygu mewn gwirionedd?

Agweddau o Grefydd

Cael eich bedyddio i'r grefydd neu ymuno'n ffurfiol ⁠ ⁠

Dilyn y rheolau

Perfformio neu gymryd rhan yn y defodau

Darllen y
llyfrau cysegredig

Dathlu'r gwyliau a'r dyddiadau pwysig

Credu yn yr hyn y mae'r llyfrau sanctaidd yn ei ddweud

Credu yn nysgeidiaeth allweddol y ffydd honno

Credu yn y syniad o Dduw (neu 'fod goruchaf') y grefydd honno

Rydw i wedi cael y fraint o gwrdd a siarad â Goroeswr yr Holocost. Roedd ei hateb i 'Ydych chi'n credu yn Nuw?' yn 'na' pendant. Ond, i’r cwestiwn 'Ydych chi'n dal yn Iddewes?', atebodd 'ie' gyda’r un pendantrwydd. ⁠⁠ Roedd hi'n cadw cartref oedd yn Kosher gan ddathlu'r holl wyliau Iddewig. ⁠Pam? Oherwydd, fel yr esboniodd yn deimladwy, bod yn Iddewig oedd ei hunaniaeth – yr hyn y ceisiodd y Natsïaid ei ddiddymu. Felly, roedd hi'n dal ei gafael hyd yn oed yn dynnach ar hynny, er nad oedd hi bellach yn credu yn y Duw y tu ôl i'r ffydd. ⁠ ⁠

Balchder diwylliannol

Nid yw'r ymdeimlad hwn o hunaniaeth, trwy ddiwylliant ac arferion yn hytrach na chred ysbrydol, yn anghyffredin; a gall ddod yn gryfach pan fydd pobl yn teimlo bod eu cefndir dan fygythiad. Enghraifft o hyn yw’r cynnydd mewn menywod Mwslimaidd ifanc sy'n dewis gwisgo'r hijab yn y blynyddoedd ar ôl trasiedi 9/11 a'r rhyfeloedd dilynol. ⁠Ymatebodd rhai pobl sydd ddim yn Fwslimiaid i’r digwyddiadau hyn gyda chasineb geiriol a/neu gorfforol tuag at bob Mwslim. Yn sgil hyn, aeth rhai Mwslimiaid ati i guddio eu ffydd, ond roedd eraill yn teimlo bod angen iddynt ei dangos yn fwy. Felly, dechreuodd rhai merched o deuluoedd lle nad oedd yr hijab yn 'norm' ei gwisgo fel ffordd o ddweud, 'Dwi'n falch o fod yn Fwslim – nid Islam ydi'r broblem, ond yr eithafwyr'.

Yn fy mhrofiad fy hun, pan oeddwn yn wynebu hiliaeth amlwg yn y gweithle, rhan o'm hymateb oedd gwisgo 'yn fwy fel un o India' i ddangos fy mod yn falch o'm treftadaeth. Rydw i hefyd wedi profi rhywun yn mynnu na allaf ‘fod yn Indiaidd’ oherwydd nad oedd lliw fy nghroen yn cyd-fynd â'u stereoteip hwy o sut y dylwn i edrych.

Baner Kenya

Baner y Deyrnas Unedig

Baner India

Baner Cymru

Rydyn ni i gyd yn barnu yn ôl ymddangosiad a stereoteipiau serch hynny, yn dydyn? Hyd yn oed os ydym yn ceisio peidio â gwneud hynny. A beth am genedligrwydd? Yn fy achos i, cefais fy ngeni yn Kenya, fel fy rhieni, pan oedd y wlad honno yn wladfa Brydeinig. ⁠ ⁠ Ganwyd tri o'u rhieni hwy yn India, ac un ym Mozambique, oedd yn drefedigaeth i Bortiwgal. Mae ein hachau i gyd yn Indiaidd (rydw i wedi gwneud y prawf DNA) ac rydw i wedi byw yn y DU ers i mi fod yn 18 mis oed, a Chymru ers 1992. Ar bapur rwy'n Brydeinig, yn enetig rwy'n Indiaidd, yn ddiwylliannol rwy'n gymysgedd o bopeth, ac mae dôs go dda o gynefin ynof. ⁠⁠ Pan symudais yma am y tro cyntaf, roedd yn teimlo fel fy mod wedi 'dychwelyd adref' – anesboniadwy, ond roeddwn yn teimlo hyn ym mêr fy esgyrn.

Hunaniaeth genedlaethol

Felly, mae wedi bod yn drist iawn yn ddiweddar i mi weld y baneri (Cymru a Phrydain) rwy'n eu caru ac yn perthyn iddynt, yn cael eu defnyddio gan rai fel neges o ‘ar wahân-rwydd’, gan ddangos dirmyg tuag at y rhai y maent yn credu nad ydynt yn perthyn. Rwy'n digwydd bod yn fewnfudwr cenhedlaeth gyntaf, ond rwy'n adnabod eraill sy'n drydedd neu'n bedwaredd cenhedlaeth 'wedi'u geni a'u magu' yn y DU, sydd hefyd yn teimlo'r anesmwythyd ofnadwy yma. Pa mor bell yn ôl neu ymlaen rydym ni'n mynd nes bod rhywun yn 'un ohonom'?

Neu a yw'n ymwneud â lliw croen? Diwylliant? Crefydd? Mae rhai mewnfudwyr yn siarad Saesneg yn unig, nid ydynt yn dilyn unrhyw grefydd, maent yn gefnogwyr brwd i bêl-droed neu griced Lloegr neu bêl-droed neu rygbi Cymru, felly beth sy'n eu rhoi nhw 'ar wahân'? Dydw i ddim yn siŵr mewn gwirionedd.

Mae'r un ferch a ofynnodd, "Beth ydw i?" bellach yn 20 oed ac yn ddiweddar mae wedi darganfod hen daid 'ymhell yn ôl' a oedd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr a chaethweision, gan achosi iddi ddweud: "Mae'n wirioneddol od cael cyndeidiau ar ddwy ochr gwladychiaeth". Nid yw hi ar ei phen ei hun - wrth i'r byd grebachu, mae mwy o bobl yn cael eu geni i rieni o gefndiroedd gwahanol iawn. Mae hyn yn wych o ran y pwll genynnau byd-eang, ond mae rhai pobl yn ofni colli hunaniaeth os yw pethau yn 'cymysgu gormod' heb unrhyw reswm clir pam. ⁠ ⁠Efallai fod hyn yn ymwneud â'r angen am un gwreiddyn yn hytrach na llawer o linynnau? Neu gred ddofn bod eu crefydd/hil/diwylliant/cenedl benodol yn well nag unrhyw un arall? A yw bod yn bobl yn cynnwys yr angen i 'berthyn'?  Beth ydych chi’n ei feddwl?

Dogfen Word

Dogfen PDF