Erthygl 3
A ddylai pobl fod yn rhydd i gredu beth bynnag maent ei eisiau?
Awdur: Gareth Evans-Jones
A ddylai pobl fod yn rhydd i gredu beth bynnag maent ei eisiau?
Dychmygwch eich bod yn cyrraedd yr ysgol yn gwisgo rhywbeth sy'n bwysig i'ch hunaniaeth chi, croes efallai, penwisg hijab, kara, neu fathodyn sy'n adlewyrchu cred neu farn sydd gennych am y byd sy'n bwysig i chi. Rŵan te, dychmygwch fod rhywun yn deud wrthoch am ei dynnu. Sut fyddech chi’n teimlo? A fyddai o bwys i chi os oedd eich cred yn un grefyddol neu’n anghrefyddol? Mae cwestiynau fel hyn wrth galon rhai o'r hawliau dynol pwysicaf yng Nghymru ac o amgylch y byd: rhyddid crefyddol neu gred. Mae'r hawl hwn yn amddiffyn pobl sy'n dilyn crefydd, pobl o argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol a phobl sy'n dal i benderfynu beth maent yn ei gredu; ac mae yn ein helpu i fyw ynghyd yn heddychlon mewn cymunedau amrywiol drwy annog parch at wahanol ffyrdd o weld y byd.
Beth yw rhyddid crefyddol neu gred?
Gwarchodir rhyddid crefyddol neu gred gan Erthygl 9 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac mae'n cael ei adnabod yn rhyngwladol yn y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol. Mae'r hawl yma yn golygu y dylai pobl fod yn rhydd i benderfynu drostynt eu hunain beth maent yn ei gredu, gan gynnwys y rhyddid i ddilyn neu newid crefydd; dilyn mwy nag un traddodiad; peidio â chael unrhyw grefydd o gwbl; neu fod â chredoau ac argyhoeddiadau sy'n anghrefyddol.
Mae llawer o bobl yn cysylltu'r hawl yma gyda chrefydd yn unig, ond mae’n llawer ehangach na hynny, gan ei fod yn gwarchod pobl sy'n nodi eu bod yn ddyneiddwyr, yn anffyddwyr, yn agnostig neu'n heddychwyr, ac eraill. Gellir gwneud gwahaniaeth defnyddiol rhwng bod â chred a mynegi cred. Mae gan bawb yr hawl i gael eu credoau eu hunain, ac fe ystyrir bod hyn yn rhyddid sylfaenol. Mae gan bobl hefyd yr hawl i fynegi eu credoau drwy addoli, drwy y dillad maent yn eu gwisgo, symbolau, dathliadau ac arferion dyddiol. Fodd bynnag, nid yw'r agwedd yma o'r hawl yn ddiderfyn. Mewn rhai amgylchiadau, gellir gosod cyfyngiadau ar sut mae credoau yn cael eu mynegi os oes pryderon am ddiogelwch, i warchod hawliau pobl eraill, neu gynnal y drefn gyhoeddus.
Pwynt pwysig i'w nodi yw bod parchu hawl rhywun i fod â chred ddim o reidrwydd yn golygu bod rhywun yn cytuno efo'r gred honno. Mae pobl yn aml yn anghytuno mewn cymdeithas ddemocrataidd, ac mae hawliau dynol yn helpu i sicrhau nad yw’r anghytuno yn troi’n rhagfarn.
Rhyddid cred yng Nghymru o ddydd i ddydd
Weithiau, gall hawliau dynol deimlo’n bell i ffwrdd neu yn haniaethol, ond mae rhyddid crefyddol neu gred yn effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ar draws Cymru. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod pobl rhag gwahaniaethu oherwydd eu crefydd neu gred a gellir gweld hyn yn ddyddiol, e.e., pan fyddwch yn gweld dysgwr Mwslim yn gwisgo hijab, dysgwr Iddewig yn dathlu gŵyl grefyddol, dysgwr sy'n ddyneiddiwr yn mynegi byd-olwg anghrefyddol, neu ddysgwr sy'n anffyddiwr yn dewis peidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau crefyddol. I'r rhan fwyaf o bobl mae'r dewisiadau hyn yn rhan o bwy ydynt, ac mae'r gyfraith yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg, beth bynnag fo'u cred.
Er hynny, weithiau mae hawliau angen cydbwysedd. Efallai y bydd angen i ysgolion ystyried cwestiynau am bolisïau gwisg ysgol, iechyd a diogelwch, neu hawliau dysgwyr eraill. Dyna pam nad yw hawliau dynol bob amser yn ymwneud ag atebion syml, gan eu bod yn aml angen trafodaeth ofalus, cyfaddawd a dealltwriaeth.

Stori o Fangor: rhyddid cred yn ymarferol
I ddeall pam fod yr hawliau hyn yn bwysig heddiw, mae bob amser o gymorth edrych yn ôl i'r gorffennol, gan fod crefydd wedi chwarae rhan amlwg yn hanes Cymru. Gellir gweld enghraifft ddiddorol o ryddid cred ar waith yn hanes Bangor, gogledd Cymru. Ni fyddai rhai pobl yn meddwl am Fangor heddiw fel lle gyda hanes o amrywiaeth crefyddol, ond yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, roedd Bangor yn gartref i amrywiaeth o grefyddau, gan gynnwys cymuned fechan ond gweithgar o Iddewon.
Fel y tyfodd y gymuned, fe wnaeth papurau lleol gyhoeddi apeliadau i gefnogi sefydlu synagog, ac yn y pen draw cafodd un ei hagor yn Arvonia House ar y Stryd Fawr. Er mai eithaf bychan ydoedd, gyda dim ond dwy ystafell ar gyfer anghenion y gymuned, roedd yn lle pwysig i addoli, i addysgu ac ym mywyd y gymuned yn gyffredinol. Er hynny, fel sawl cymuned fechan o Iddewon ar draws Prydain, fe edwinodd poblogaeth Iddewig Bangor fel y symudodd teuluoedd i ffwrdd i weithio ac i gael cyfleoedd newydd. Fel y gostyngodd y niferoedd, daeth yn fwyfwy anodd i gynnal y synagog ac yn y pendraw aeth y gynulleidfa yn rhy fach i gynnal yr adeilad a chaewyd y synagog yn 1963.
Er i'r synagog gau, ni ddaeth y stori i ben gan i wasanaethau crefyddol Iddewig gael eu cynnal yng Nghapel y Tabernacl ar Ffordd y Garth, sef capel oedd yn eiddo i'r Methodistiaid Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru). Er bod cymunedau Iddewig a Christnogol yn arddel credoau crefyddol gwahanol, fe wnaeth aelodau'r capel sicrhau bod lle ar gael fel y gallai addoli Iddewig barhau. Mae'r cydweithredu yma yn enghraifft gref o ryddid crefyddol neu gred ar waith, ac o undod. Mae hawliau dynol yn dibynnu ar ddeddfau, ond maent hefyd yn dibynnu ar bobl. Gall parch, dealltwriaeth a chymorth ymarferol wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleiafrifol.
Mae stori Bangor yn dangos sut mae pobl gyda chredoau gwahanol yn gallu gweithio gyda'i gilydd gan hefyd aros yn driw i'w hunaniaeth ei hunain.

Capel y Tabernacl, Bangor
Ffynhonnell y ddelwedd: Varcity Living
Dysgu o hanes anodd
Er bod enghreifftiau o gydweithredu yn bwysig, ceir gwersi mwy heriol o hanes, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y rhain. Am ganrifoedd cafodd cymunedau Iddewig ar draws Prydain eu heithrio a'u gwahaniaethu, gyda brenhinoedd a llywodraethwyr canoloesol yn erlid Iddewon o Gymru a Lloegr, gan atal cymunedau Iddewig agored rhag bodoli am ganrifoedd, ac yn fwy diweddar, fe wnaeth rhagfarn yn erbyn Iddewon barhau i godi'i ben mewn gwahanol ffurf.
Mae gan Gymru nifer o straeon cadarnhaol am y gymuned yn cefnogi ac yn cynnwys pawb, ond mae hefyd wedi profi adegau o ragfarn crefyddol ac ymddygiad gelyniaethus. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod yr hanes anodd yma gan ei fod yn ein helpu i ddeall pam bod angen gwarchod hawliau dynol. Nid yw hawliau yn digwydd yn awtomatig; fe wnaethant ddatblygu gan fod pobl yn cydnabod y gallai gwahaniaethu ac eithrio achosi niwed gwirioneddol. Mae edrych yn onest ar y gorffennol yn gallu helpu cymdeithasau i wneud dewisiadau tecach yn y presennol.
Cydbwyso hawliau mewn democratiaeth fodern
Un o'r heriau mwyaf mewn unrhyw ddemocratiaeth yw penderfynu sut y dylai hawliau gwahanol weithio gyda'i gilydd. Er enghraifft, a ddylai pobl bob amser fod yn rhydd i fynegi eu credoau yn gyhoeddus? Beth sy’n digwydd pan fydd gwahanol gredoau yn gwrthdaro? Sut ddylai ysgolion ymateb pan fydd anghytundeb yn codi? Ac a ellir trin safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol yn deg ar yr un pryd? Nid oes atebion hawdd i'r cwestiynau hyn.
Yn gyffredinol, mae'r Gymru fodern yn mynd i'r afael â materion o'r fath trwy system seciwlar sy'n seiliedig ar hawliau. Mae hyn yn golygu nad yw sefydliadau fel y Senedd yn cael eu rheoli gan grefydd benodol ac maent yn anelu at gynrychioli pobl o bob ffydd a'r rhai heb ffydd. Yn wir, mae syniadau sy'n gysylltiedig â'r Oes Oleuedig, democratiaeth, a thraddodiadau dyneiddiol wedi dylanwadu ar y dull gweithredu hwn er mwyn creu cymdeithas lle gall pobl â safbwyntiau gwahanol fyw gyda'i gilydd yn barchus. Nid yw'r cydbwysedd hwn bob amser yn berffaith, ond mae'n parhau i fod yn ddelfryd ddemocrataidd bwysig.

Pam fod hyn i gyd yn bwysig?
Mae rhyddid crefyddol neu gred yn ymwneud â hunaniaeth a pharch, ac ymdeimlad o berthyn. Mae'n helpu pobl i deimlo'n ddiogel wrth fynegi pwy ydyn nhw, trwy annog cymunedau i werthfawrogi amrywiaeth, cefnogi tegwch a herio gwahaniaethu. Mae hefyd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth pwysig, gan gynnwys empathi, meddwl beirniadol a thrafodaeth barchus.
Mae stori cymuned Iddewig Bangor yn ein hatgoffa o'r heriau a'r posibiliadau o fyw mewn cymdeithas amrywiol. Mae cau'r synagog yn dweud un stori, ond mae penderfyniad capel Presbyteraidd Cymreig i wneud lle i addoli Iddewig yn dweud stori arall. Mae'n ein hatgoffa bod hawliau'n dod yn ystyrlon pan fydd pobl yn cefnogi ac yn parchu ei gilydd yn weithredol.
Wrth i Gymru barhau i newid, mae rhyddid crefyddol neu gred yn parhau i fod yn sylfaen bwysig i fywyd democrataidd. Gall deall yr hawl hon ein helpu i adeiladu cymunedau lle mae pobl o wahanol gredoau, a'r rhai sydd heb gred, yn cael eu trin gydag urddas, tegwch a pharch.
