Erthygl 1
Dychmygwch fywyd heb hawliau...
Beth fyddai'n newid?
Awdur: Paula Webber
Cyflwyniad i hawliau dynol trwy Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Beth am i ni roi cynnig ar rywbeth. Dychmygwch eich bod chi'n deffro yfory ac mae rhai o'r hawliau rydych chi bob amser wedi'u cymryd yn ganiataol wedi diflannu. Rydych chi'n cyrraedd yr ysgol ac yn darganfod nad ydych chi bellach yn cael mynychu oherwydd eich crefydd, eich anabledd, eich ethnigrwydd, neu gefndir eich teulu. Cewch wybod na allwch chi fynegi barn benodol. Efallai y cewch eich rhwystro rhag arfer eich crefydd, neu rhag dewis peidio â chael crefydd. Efallai na chaiff eich teulu yr hawl i fyw gyda'i gilydd, neu mae rhywun yn chwilio trwy eich negeseuon preifat heb eich caniatâd. Sut fyddai hynny'n teimlo?
Efallai mai'r peth cyntaf ddaw i'ch meddwl ydi, "Fedrai hynny ddim digwydd yma." Ac, mewn llawer o sefyllfaoedd, mi fyddech chi'n iawn. Ond nid ar ddamwain y daeth yr hawliau dynol sy'n ein hamddiffyn i fodolaeth. Trwy’r oesoedd, cyfyngwyd ar ryddid pobl, fe wahaniaethwyd yn eu herbyn, a chawsant eu trin fel pe baent o lai o bwys na phobl eraill. I rai pobl ar draws y byd, mae profiadau fel hyn yn dal i fod yn rhan o fywyd pob dydd.
Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bob person, am y rheswm syml eu bod yn berson. Nid oes rhaid i chi eu hennill. Dydyn nhw ddim yn dibynnu ar fod yn gyfoethog, yn bwerus, yn llwyddiannus, neu’n boblogaidd, a dydyn nhw ddim yn ddibynnol ar eich crefydd neu eich credoau, eich cenedligrwydd, ethnigrwydd, rhyw, oedran, neu a oes gennych anabledd. Rydych chi'n berson, ac mae hynny'n ddigon.

Mae'r syniad hwn o werth cyfartal pob bod dynol wrth wraidd llawer o drafodaethau am hawliau dynol, ond dydi cydraddoldeb ddim yn golygu bod pawb yr un fath. Mae gennym wahanol hunaniaethau, profiadau ac anghenion. Efallai y bydd angen cymorth ar rywun sydd ag anabledd i gael yr un cyfleoedd â rhywun arall. Efallai y bydd angen i rywun sydd wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eu crefydd neu ethnigrwydd gael eu hamddiffyn rhag rhagor o driniaeth annheg. Dydi trin pobl yn deg ddim bob amser yn golygu trin pawb yn union yr un fath. Weithiau mae tegwch yn golygu cydnabod gwahaniaeth ac ymateb i'r hyn sydd ei angen ar bobl. Gelwir hyn yn ecwiti. Y syniad pwysig ydi bod pob unigolyn o bwys.

Pam bod Bywyd dynol o Bwys?
I lawer o bobl grefyddol, mae'r cwestiwn o hawliau dynol yn cysylltu â chwestiynau llawer dyfnach am beth mae'n ei olygu i fod yn berson a pham bod bywyd person yn werthfawr. I Gristnogion, er enghraifft, gall urddas ddynol fod yn gysylltiedig â'r gred bod pobl wedi'u creu ar ddelw Duw. Gall dysgeidiaeth Gristnogol am garu eich cymydog a gofalu am bobl sy'n fregus arwain Cristnogion i feddwl am dlodi, gwahaniaethu, ffoaduriaid, ac anghyfiawnder.
Tynnodd Martin Luther King Jr, gweinidog Cristnogol ac arweinydd hawliau sifil, yn ddwfn ar ei ffydd Gristnogol wrth wrthwynebu gwahaniaethu a gwahanu ar sail hil yn yr Unol Daleithiau. Roedd ei ymrwymiad i wrthsafiad di-drais wedi'i wreiddio yn ei gred yn urddas a gwerth cyfartal pobl. Mae ei fywyd yn codi cwestiwn pwysig: os ydym yn credu bod gan bob unigolyn werth, beth ddylem ni ei wneud pan welwn bobl yn cael eu trin yn anghyfiawn? Yn ogystal â dilyn Iesu fel model rôl, edrychodd Martin Luther King hefyd at yr arweinydd Hindŵaidd Gandhi am ysbrydoliaeth gan ei fod yntau hefyd yn eiriolwr dros brotest ddi-drais.
Mae gan Islam hefyd draddodiad cyfoethog o feddwl am gyfiawnder, urddas, a chyfrifoldeb. Gall Mwslimiaid fynd at y Qur'an ac esiampl a dysgeidiaeth y Proffwyd Muhammad wrth ystyried sut y dylai pobl drin ei gilydd a sut y dylai'r rhai sydd â grym ymddwyn. Mae'r cysyniad o 'Adl, sy'n aml yn cael ei gyfieithu fel cyfiawnder neu degwch, yn bwysig yn y traddodiad deallusol Islamaidd. Un o'r 99 enw ar gyfer Allah yw Al 'Adl sy'n golygu mai Allah yw'r Mwyaf Cyfiawn a Theg ac mae Mwslimiaid yn ceisio efelychu hyn yn eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn annog cwestiynau ynghylch a yw pobl yn cael eu trin yn deg ac a yw ein cyfrifoldebau dros eraill yn newid pan fydd gennym fwy o rym neu ddylanwad. Efallai y bydd Mwslim felly, nid yn unig yn holi: "Pa hawliau sydd gen i?" ond hefyd, "Beth yw fy nyletswydd i o ran cyfiawnder?".

Martin Luther King Jr.
Wikipedia

Cerflun Mahatma Gandhi yn rhanbarth Churchgate yn ninas Mumbai, talaith Maharashtra yn India
Mae traddodiadau Iddewig wedi archwilio cwestiynau am gyfiawnder, urddas ddynol, a chyfrifoldeb tuag at eraill, dros ganrifoedd lawer. Yn dilyn yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ddioddefodd gymaint o Iddewon a grwpiau lleiafrifol eraill wahaniaethu yn eu herbyn a chael eu lladd yn systematig, daeth llywodraethau i ddeall bod angen deddfwriaeth hawliau dynol i amddiffyn pobl.
Mae yna syniadau diddorol i'w harchwilio mewn crefyddau Dharmig hefyd. Un ohonynt yw ahimsa, term sy'n aml yn cael ei gyfieithu fel di-drais neu ddi-niwed. Mae'n cael ei gysylltu'n arbennig gyda thraddodiadau Hindŵaidd, Jainaidd a Bwdhaidd, er ei fod yn cael ei ddeall yn wahanol o fewn pob un. Mewn Jainiaeth, mae ahimsa yn hynod o bwysig a gall arwain at ymrwymiad cryf i osgoi niwed i unrhyw fod byw. Mewn traddodiadau Hindŵaidd, mae ahimsa wedi dylanwadu ar feddylfryd am sut mae pobl yn ymateb i drais ac anghyfiawnder. Ystyriodd Mahatma Gandhi ahimsa, ochr yn ochr â dylanwadau crefyddol ac athronyddol eraill, wrth ddatblygu ei agwedd at wrthsafiad di-drais.
Mae hyn yn ein gadael gyda chwestiwn anodd. Os ydi rhywun yn ymddwyn yn anghyfiawn, ydi hi'n iawn eu gwrthsefyll? Allwn ni herio anghyfiawnder heb fynd yn dreisgar ein hunain? Gall safbwyntiau Bwdhaidd roi pwyslais arbennig ar dosturi a lleihau dioddefaint. Mae'r Dalai Lama wedi siarad yn aml am dosturi a'n cyd-ddynoliaeth. Ni ddylem awgrymu bod pawb sy’n arddel traddodiad crefyddol yn meddwl yn union yr un fath. Mae traddodiadau crefyddol yn amrywiol, ac mae pobl yn dehongli dysgeidiaethau mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r amrywiaeth honno yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mor ddiddorol.

Beth os nad ydych chi'n credu yn Nuw?
Nid cwestiwn crefyddol yn unig ydi hawliau dynol. Gall Dyneiddwyr a phobl ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol eraill fynd i'r afael â'r materion hyn o fan cychwyn gwahanol. Mae Dyneiddwyr yn gyffredinol yn dadlau y gallwn ddatblygu egwyddorion moesegol trwy resymeg, empathi, tystiolaeth, a'n profiad cyffredin o fod yn bobl. Gallai Dyneiddiwr ddadlau nad oes angen i hawliau dynol fod yn seiliedig ar gred grefyddol, wrth ddal i gadarnhau y dylid trin pob unigolyn gydag urddas a thegwch.
Mae hyn yn rhoi un o'r cwestiynau mwyaf diddorol i ni yn yr holl drafodaeth: o ble mae hawliau dynol yn dod mewn gwirionedd? Oes ganddyn nhw ffynhonnell ddwyfol? Ydyn nhw wedi'u creu gan lywodraethau a'u diogelu trwy gyfreithiau? Ydyn nhw'n dod o gytundebau rhyngwladol? Neu ydyn nhw'n deillio o rywbeth ynglŷn â bod yn bobl? Gall gwahanol argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol ateb y cwestiynau hyn mewn gwahanol ffyrdd.
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn rhoi cyfle i ni archwilio'r gwahaniaethau hynny heb gymryd yn ganiataol bod yn rhaid i bawb ddod i'r un casgliad.
Beth yw ECHR?
Yn dilyn erchyllterau'r Ail Ryfel Byd, roedd gwledydd Ewrop eisiau amddiffyn pobl yn well. Ym 1950, cytunwyd ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a elwir fel arfer yn ECHR. Mae'n amddiffyn nifer o hawliau sylfaenol, gan gynnwys yr hawl i fywyd; rhyddid rhag artaith; yr hawl i brawf teg; rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd; a rhyddid mynegiant.
Mae'r ECHR yn arbennig o berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg oherwydd bod rhyddid crefydd neu gred yn cael ei ddiogelu. Dylai pobl allu arddel credoau crefyddol, newid eu crefydd neu eu cred, neu arddel argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Mae'r rhyddid i fynegi credoau hefyd yn cael ei ddiogelu, er nad yw hawliau bob amser yn ddiderfyn a gallant weithiau wrthdaro gyda hawliau a rhyddid pobl eraill.
Mae'r ECHR yn rhan o ddadl wleidyddol yn y DU. Mae rhai pobl yn ei weld fel amddiffyniad hanfodol oherwydd ei fod yn rhoi ffyrdd i unigolion herio llywodraethau a'i fod yn amddiffyn pobl a allai fod yn agored i niwed. Yn y DU mae naw nodwedd warchodedig i sicrhau bod pawb yn cael eu diogelu gan y gyfraith gan fod gan bob un ohonom hawliau dynol cyfartal. Mae eraill yn dadlau bod angen newidiadau, yn enwedig mewn perthynas â mewnfudo, lloches a'r cydbwysedd rhwng hawliau unigolion a budd y cyhoedd ehangach. Yn ddiweddar, mae llywodraeth y DU wedi cefnogi newidiadau i ddehongliad rhannau o'r Confensiwn tra'n ailddatgan ei hymrwymiad i'r ECHR fel ffordd bwsig o amddiffyn hawliau. Nid yw'r ddadl felly yn ymwneud â 'chadw' neu 'golli' hawliau yn unig; mae hefyd yn ymwneud â sut y dylid dehongli a chydbwyso hawliau mewn cymdeithas sy'n newid.
I ddosbarth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae hyn yn llawer mwy na dadl wleidyddol. Mae'n gyfle i archwilio syniadau am awdurdod, cyfiawnder, rhyddid a chyfrifoldeb. Pwy ddylai benderfynu beth yw ein hawliau? A ddylai llywodraethau fyth allu cyfyngu ar hawliau dynol? Beth sy'n digwydd pan fydd yn ymddangos bod hawliau un person yn gwrthdaro â hawliau unigolyn arall? A beth allai newid pe na byddai'r amddiffyniadau sy'n cael eu darparu gan yr ECHR yno mwyach?
Pam ddylem ni falio?
Gall hawliau dynol weithiau swnio fel rhywbeth sy'n perthyn i lyfr cyfraith neu lys, yn hytrach na rhywbeth sy'n gysylltiedig â bywyd bob dydd. Ond maen nhw'n effeithio ar ein bywydau mewn ffyrdd nad ydym yn sylwi arnyn nhw. Maen nhw'n helpu i amddiffyn ein rhyddid i ddysgu, i feddwl, siarad, credu, cwestiynu, addoli neu ddewis peidio ag addoli. Maen nhw'n ein hamddiffyn rhag gwahaniaethu ac yn gosod cyfyngiadau ar rym llywodraethau.
Mae hawliau dynol hefyd yn ymwneud â rhywbeth dyfnach. Maen nhw'n gofyn i ni feddwl beth yw gwerth pobl a beth sy'n arnom ni i'n gilydd. Os oes gan bob person yr un gwerth, pa gyfrifoldebau sydd gennym tuag at bobl sy'n wahanol i ni? Os ydw i eisiau i fy rhyddid i fynegi fy nghredoau gael ei ddiogelu, a ddylwn i hefyd amddiffyn rhyddid rhywun arall i arddel credoau gwahanol? Os yw fy argyhoeddiadau crefyddol neu athronyddol yn fy nysgu i falio am gyfiawnder, beth ddylwn i ei wneud pan welaf i rywun yn cael ei drin yn annheg? Os ydw i'n ceisio byw yn ôl ahimsa, sut y gallai hynny ddylanwadu ar y ffordd rydw i'n ymateb pan fydd unigolyn arall yn cael ei niweidio? Ac os nad oes gennyf gred grefyddol, a all rhesymeg ac empathi fy arwain tuag at yr un ymrwymiad i urddas?
Dydi'r rhain ddim yn gwestiynau gydag un ateb syml. Maen nhw'n gwestiynau y mae argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol wedi ymgodymu â nhw ers canrifoedd, ac maen nhw'n parhau i fod yn bwysig heddiw. Mae hawliau dynol yn fater mwy eang na chaniatâd i wneud yr hyn, llall ac arall. Maen nhw hefyd yn ymwneud â sut rydym ni'n deall gwerth pobl eraill a sut rydym ni'n dewis byw gyda'n gilydd.
Felly, dychmygwch fywyd heb hawliau. Beth fyddai'n newid?


