Erthygl 2
Fedrith robot fod yn arweinydd ysbrydol i chi?
Awdur: Gareth Evans-Jones
Fedrith robot fod yn arweinydd ysbrydol i chi?
Mae hi’n hwyr ac mae gen ti gwestiwn am fywyd, cred, neu beth sy’n dda a drwg, sy’n mynd rownd a rownd yn dy ben. Efallai bod y pwnc wedi codi mewn gwers Addysg Grefyddol, Gwerthoedd a Moeseg, neu efallai ei fod yn rhywbeth mwy personol. Does na ddim athro/athrawes neu arweinydd crefyddol o gwmpas i ti fedru gofyn iddyn nhw. Fel llawer o bobl heddiw, rwyt ti’n troi at dy ffôn, ac mewn eiliadau, mae AI wedi rhoi ateb i ti sy’n tynnu oddi ar destunau a dysgeidiaethau crefyddol, a syniadau o bedwar ban byd.
Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae AI yn dechrau cael rôl yn sut mae pobl yn dysgu am grefydd, gofyn cwestiynau moesegol, a hyd yn oed ymchwilio i ysbrydolrwydd. Ond fedrith ‘peiriant’ wir roi arweiniad i rywun ar ysbrydolrwydd? A beth yw’r cyfleoedd, a’r risgiau, wrth droi at AI am atebion am gred?
AI a chrefydd ar waith
Mae AI yn cael ei ddefnyddio yn barod mewn cyd-destunau crefyddol mewn ffyrdd a allai dy synnu. Er enghraifft, mae rhai cymunedau Iddewig wedi arbrofi gyda systemau Rabbi AI fel teclynnau i ateb cwestiynau am gyfraith Iddewig (halakha), fel pa fwydydd sy’n kosher neu’r ffordd orau i ddathlu gwyliau crefyddol. Maen nhw’n gweithio drwy ddadansoddi casgliad mawr o destunau a sylwadau crefyddol.
Mewn Cristnogaeth, mae chatbots y Beibl yn gadael i ddefnyddwyr ofyn cwestiynau fel, ‘Beth mae maddeuant yn ei olygu yn y Testament Newydd?’ neu ‘Unrhyw awgrym am weddi ar gyfer gorbryder?’ Yn y cyfamser, mewn Bwdhaeth, mae apiau myfyrdod, sydd weithiau’n cael eu galw’n ‘Buddha Bots’ yn arwain defnyddwyr drwy ymarferion anadlu, technegau meddylgarwch, ac adlewyrchu ar ddioddefaint a thosturi; ac mae rhai hyd yn oed yn symbylu sgyrsiau yn seiliedig ar ddysgeidiaethau Bwdhaidd.
Mae’r enghreifftiau yma yn dangos sut mae AI yn gallu rhoi mynediad uniongyrchol at wybodaeth ac arferion crefyddol. Yn lle chwilio drwy lyfrau neu aros i siarad gydag arweinydd crefyddol, mae pobl yn gallu cael atebion bron yn syth. I ddysgwyr, mae hyn yn gallu bod yn hynod o ddefnyddiol. Os wyt ti’n adolygu ar gyfer asesiad Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu’n ceisio deall cysyniad anodd, mae AI yn gallu cynnig eglurhad mewn iaith syml, hygyrch. Mae’n gallu dy gyflwyno i gredoau ac arferion o draddodiadau na fyddet ti efallai yn dod ar eu traws mewn bywyd bob dydd. Fel hyn, mae AI yn medru dy gefnogi fel dysgwr uchelgeisiol, galluog, dy helpu i ymchwilio i gwestiynau yn annibynnol a dyfnhau dy ddealltwriaeth.
Ond, nid gwybodaeth yn unig yw crefydd… a dyna lle mae pethau’n mynd yn fwy cymhleth.
Mynediad v dilysrwydd: Beth mae AI yn gallu ei gynnig go iawn?
Un o’r dadleuon cryfaf o blaid AI mewn crefydd ydi hygyrchedd, gan nad oes gan bawb fynediad at fan addoli neu gymuned grefyddol. Mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, efallai mai dim ond un neu ddwy o ganolfannau crefyddol sydd yno, neu ddim o gwbl. Mae AI yn cynnig gwahanol fath o ofod: preifat, uniongyrchol, ac ar gael ar unrhyw adeg. Mi fedrwch chi ofyn cwestiynau anodd neu bersonol heb fod â chywilydd, ac i rywun sy’n ymchwilio i’w hunaniaeth neu gred, mae hyn yn gallu bod yn bwerus.
Dychmygwch bod myfyriwr eisiau dod i ddeall mwy am ymprydio yn ystod Ramadan, ond dydyn nhw ddim yn adnabod unrhyw Fwslemiaid yn bersonol. Mi all teclyn AI egluro’r arferiad, ei ystyr, a sut mae’n cael ei ddathlu. Yn hyn o beth, mae AI yn gallu lleihau’r rhwystrau a gwneud dysgu am grefydd yn fwy cynhwysol.
Ond, mae gwahaniaeth pwysig rhwng cael mynediad at wybodaeth a pha mor ddilys yw’r wybodaeth honno. Mae traddodiadau crefyddol wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn profiad pobl, ac yn cynnwys y gymuned, defodau ar y cyd, a pherthnasau rhwng pobl. Mae arweinydd crefyddol, fel imam, offeiriad, rabbi neu fynach, yn gwneud mwy na rhannu gwybodaeth. Maen nhw’n gwrando, yn cynnig arweiniad, ac yn ymateb gydag empathi, sydd wedi’i siapio gan eu profiadau bywyd eu hunain. Dydi AI yn methu ail-greu hyn gan nad oes ganddo unrhyw gredoau, emosiynau na phrofiadau personol. Mae hyn felly yn codi cwestiwn pwysig: Fedrith rhywbeth sydd erioed wedi byw fel person gynnig arweiniad ysbrydol go iawn?
Er enghraifft, os oes rhywun yn gofyn i chatbox AI am gyngor ar sut i ddelio efo colled, efallai y bydd o’n cynnig geiriau o gysur neu ddysgeidiaethau perthnasol, ond fydd o ddim yn gallu deall sut mae galar yn teimlo go iawn. Ar y llaw arall, mae person yn gallu ymateb efo empathi, sy’n seiliedig ar brofiadau go iawn. Mae pobl yn dehongli’r byd drwy emosiynau, perthnasau a phrofiadau go iawn, ond prosesu data mae AI – ac er ei fod yn gallu swnio’n dda iawn, mae’n gweithio mewn ffordd hollol wahanol. Fel dinesydd moesegol, gwybodus, mae’n bwysig meddwl yn feirniadol am y gwahaniaeth yma.
Risgiau, cyfrifoldeb, a dyfodol arweiniad ysbrydol
Er bod manteision iddo, mae defnyddio AI mewn crefydd hefyd yn codi pryderon moesegol a llesiant difrifol, yn enwedig i bobl ifanc, ac un o’r risgiau mwyaf yw bod pobl yn mynd yn or-ddibynnol ar AI. Wrth i AI ddatblygu ymhellach, mae’n gallu teimlo fel rhywbeth sy’n cynnig cyngor dibynadwy, ac efallai bod rhai pobl yn troi ato, nid yn unig am wybodaeth, ond hefyd ar gyfer arweiniad emosiynol neu bersonol. Ond, dydi AI ddim wedi hyfforddi fel cwnselydd, athro/athrawes na mentor ysbrydol. Dydi o ddim yn medru deall emosiynau neu sefyllfaoedd cymhleth, felly mi allai bod yn or-ddibynnol arno atal pobl rhag chwilio am gefnogaeth gan oedolion, ffrindiau neu aelodau o’r gymuned y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw.
Mae cywirdeb a bias hefyd yn bethau i’w cadw mewn cof. Mae systemau AI yn cael eu hyfforddi ar ddata, ond dydi’r data hwnnw ddim yn berffaith bob tro. Mi allai adlewyrchu ar rai dehongliadau o grefydd ac anwybyddu rhai eraill, ac mewn rhai achosion, fe allai hyd yn oed gynhyrchu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol. Er enghraifft, os ydy chatbox AI yn cael ei hyfforddi yn bennaf ar un dehongliad o Gristnogaeth, efallai y bydd yn cyflwyno’r farn honno fel yr unig farn sy’n bodoli, er bod llawer o enwadau a safbwyntiau gwahanol eraill yn bodoli.
Mae atebolrwydd yn bryder arall. Os bydd arweinydd crefyddol dynol yn rhoi cyngor niweidiol, maen nhw’n gallu cael eu herio a’u dal yn gyfrifol, ond os fydd system AI yn rhoi ateb problemus, dydi hi ddim yn glir pwy sydd i’w feio bob amser: ai’r datblygwr, y platfform neu’r data y cafodd ei hyfforddi arno sydd ar fai?
Hefyd, mae dadl gynyddol yn cael ei chynnal am fasnacheiddio crefydd. Mae rhai teclynnau AI ar gael am ddim, ond mae angen tanysgrifio neu dalu am nodweddion premiwm mewn rhai eraill, ac mae hyn yn codi cwestiynau moesegol pwysig, fel:
- Ddylai pobl orfod talu am wybodaeth ysbrydol?
- Ydy codi ffi am fynediad yn creu anghydraddoldeb?
- Ydy hyn yn newid ystyr dysgu crefyddol os ydi o’n newid i fod yn gynnyrch?
Gan fod llawer o draddodiadau crefyddol yn pwysleisio bod angen rhannu doethineb yn rhydd, mae troi arweiniad ysbrydol yn rhywbeth sy’n gallu cael ei brynu a’i werthu yn herio’r syniad yma.
Mae’r holl faterion yma yn tynnu sylw at bwysigrwydd meddwl yn feirniadol. Mae bod yn unigolyn iach, hyderus, yn cynnwys gwybod pa bryd i ddefnyddio technoleg a pha bryd i ofyn am gefnogaeth gan bobl go iawn.
Felly, fedrith robot fod yn arweinydd ysbrydol?
Mae’n amlwg bod AI yn newid y ffordd mae pobl yn ymwneud efo crefydd. Mae’n gallu agor drysau, rhoi mynediad a chefnogi dysgu mewn ffyrdd newydd a chyffrous. I bobl sy’n teimlo ar eu pennau eu hunain, neu’n chwilfrydig, mae’n cynnig ffordd o gymryd rhan mewn sgyrsiau am gred ac ystyr. Ond, mae yna gyfyngiadau iddo – er bod AI yn gallu rhoi gwybodaeth, dydi o ddim yn gallu cynnig unrhyw beth yn lle profiad pobl. Mae o’n gallu cychwyn trafodaeth, ond dydi o ddim yn gallu ffurfio perthnasau go iawn. Mae o’n gallu cynnig arweiniad, ond dydi o ddim yn gallu deall sut beth ydi bod yn berson go iawn.
Efallai mai’r wers bwysicaf yw mai teclyn ydy AI, a dydi o ddim yn medru cynnig rhywbeth yn lle cysylltiad, cymuned neu ddoethineb pobl. Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, yr her i ni i gyd yw ei defnyddio yn feddylgar ac yn gyfrifol. Mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae gofyn cwestiynau yr un mor bwysig â chanfod atebion, ac mewn byd lle mae technoleg yn newid mor gyflym, mae’r cwestiynau yna yn bwysicach nag erioed.


