Erthygl 1

Delio efo Deallusrwydd Artiffisial a cham-wybodaeth: Sut ydyn ni’n gwybod beth sy’n wir?

Awdur: Paula Webber

Delio efo Deallusrwydd Artiffisial a cham-wybodaeth: Sut ydyn ni’n gwybod beth sy’n wir?

 

Dychmyga dy fod yn gofyn cwestiwn ar-lein. Mae un ap yn dweud un peth wrthyt ti. Mae fideo yn dweud rhywbeth gwahanol. Mae chatbot AI yn swnio’n hyderus ond yn rhoi ateb cwbl wahanol. Pan mae gwybodaeth yn ymddangos ar unwaith, sut ydyn ni’n gwybod pa ateb yw’r gwir? Dyma gwestiwn mae pobl ifanc heddiw yn dysgu i’w ofyn bob dydd.

Mae pobl ifanc yn cael profiadau positif o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn barod. Mae AI yn argymell cerddoriaeth, cefnogi apiau dysgu, cyfieithu ieithoedd, awgrymu syniadau creadigol a hyd yn oed yn helpu awduron i lenwi tudalen wag. Mae llawer o ddysgwyr yn defnyddio AI i ymchwilio i bynciau, ymarfer cwestiynau adolygu, neu ddod o hyd i ddiddordebau newydd. Mae’r teclynnau yma yn gallu agor y drws i chwilfrydedd, creadigrwydd a hyder. Ond, efo teclynnau pwerus, daw rhai cwestiynau pwysig.

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Dydi Deallusrwydd Artiffisial, neu AI, ddim yn meddwl nac yn deall fel y byddai person go iawn. Yn lle hynny, mae’n chwilio am batrymau mewn casgliad mawr o wybodaeth ac yn dyfalu pa eiriau, delweddau neu atebion ddylai ddod nesaf. Mae’n ffordd ddatblygedig iawn o gasglu gwybodaeth a synthesis. Mewn geiriau eraill, mae’n chwynnu drwy lwyth o wybodaeth ar-lein ac yn ei gymysgu efo’i gilydd i roi ateb i ti. Gan fod AI yn adnabod patrymau yn lle ystyr, weithiau mae’n gallu cynhyrchu atebion sy’n swnio’n dda, hyd yn oed pan maen nhw’n anghywir. Dydi AI ddim yn gwybod os yw rhywbeth yn wir neu ddim. Mae atebion AI yn cael eu creu yn seiliedig ar debygolrwydd, ac nid ar ddealltwriaeth.

Fedrwn ni ymddiried mewn AI?

Mae systemau AI yn gallu gwneud camgymeriadau. Mae camgymeriadau yn fwy tebygol pan mae cwestiynau yn cynnwys gwybodaeth arbenigol fel meddyginiaeth, pynciau technegol, neu grefydd a chred, lle mae cywirdeb a chyd-destun yn bwysig iawn. Rhaid i bobl adolygu a chwestiynu ymatebion AI bob amser.

Y defnyddiwr sy’n gyfrifol am wneud hyn. Pan fyddwn ni’n darllen, yn rhannu neu’n dibynnu ar wybodaeth sy’n cael ei chreu gan AI, rydyn ni’n dal yn gyfrifol am wirio os yw’n gywir. Ond eto, mae mwy o gyfrifoldeb hefyd ar y rhai sy’n creu a siapio systemau AI. Erbyn hyn, mae pobl ifanc yn mynd i fyd gwaith y dyfodol lle mae’n bosib y byddan nhw’n dylunio, hyfforddi neu wella technolegau AI eu hunain. Mae’r dewisiadau moesegol a wneir gan ddatblygwyr yn effeithio ar gymdeithas, tegwch, creadigrwydd ac ymddiriedaeth.

Cam-wybodaeth a dylanwad

Mae gofodau ar-lein yn cynnwys delweddau wedi’u golygu, fideos perswadiol, a straeon sydd wedi’u dylunio i ddenu sylw. Yn aml, mae algorithmau yn dangos cynnwys sy’n debyg i beth maen nhw hefyd yn ei gredu, sy’n gallu cryfhau barn heb gynnig safbwyntiau gwahanol na herio. Yn anfwriadol, mae AI yn gallu lledaenu cam-wybodaeth pan fydd data anghywir yn ymddangos mewn deunydd hyfforddi neu pan fydd defnyddwyr yn rhannu cynnwys heb ei wirio gyntaf.

Mae cam-wybodaeth yn effeithio ar yr ymddiriedaeth sydd rhwng pobl a chymunedau ac felly mae angen ei gymryd o ddifri. Mae gwybodaeth ffals am grefyddau, diwylliannau, neu ddigwyddiadau yn gallu creu camddealltwriaeth neu raniad mewn cymdeithas. Mae hyn yn codi cwestiwn moesegol pwysig: ydy rhannu gwybodaeth anghywir yn fater moesol? Mae llawer o bobl yn credu ei fod, gan y gallai rhannu rhywbeth sydd ddim yn wir frifo pobl eraill, er efallai nad dyna oedd y bwriad.

Dysgeidiaethau crefyddol am wirionedd

Mae traddodiadau crefyddol wedi annog pobl ers amser maith i chwilio am y gwir yn ofalus. Mewn Bwdhaeth, mae dysgeidiaethau yn annog unigolion i brofi unrhyw syniadau yn hytrach na derbyn awdurdod heb ei gwestiynu. Mae’r Llwybr Wythblyg (Noble Eightfold Path), sy’n cynnwys Gweld yn Gywir, Llefaru’n Gywir a Meddwl yn Gywir, yn atgoffa Bwdhyddion i feddwl yn ofalus, siarad yn onest, a chofio sut mae’r pethau yr ydym yn eu gwneud yn gallu effeithio ar eraill. Mae dysgeidiaethau Iddewig a Christnogol hefyd yn rhoi pwyslais ar wirionedd. Mae’r gorchymyn yn erbyn dweud celwyddau yn ein dysgu bod gonestrwydd yn gwarchod perthnasau a chymunedau. Mae’r dysgeidiaethau hynafol yma yn medru arwain ymddygiad digidol modern drwy ein hatgoffa bod y gwir yn bwysig ymhob oes, yn cynnwys yn y byd ar-lein.

Y Llwybr Wythblyg

Mae’r Deg Gorchymyn sy’n cael eu dilyn mewn Iddewiaeth a Christnogaeth yn cyfeirio at bwysigrwydd peidio â dwyn a dweud celwydd.

Safbwyntiau Dyneiddwyr ar y gwir a thystiolaeth

⁠Mae dyneiddwyr yn credu bod dealltwriaeth yn tyfu drwy dystiolaeth, rheswm, ac ymholiad. Dylai’r honiadau sy’n cael eu gwneud ar-lein gael eu profi gan ddefnyddio ffynonellau dibynadwy, ac mae dealltwriaeth yn datblygu pan fo pobl yn gofyn cwestiynau ac yn edrych ar y prawf. O’r safbwynt yma, pobl sydd efo cyfrifoldeb moesegol, nid peiriannau. Mae technoleg yn gallu helpu gyda’r meddwl, ond rhaid i bobl benderfynu beth sy’n wir ac yn dda.

Ar draws byd-olygon crefyddol ac anghrefyddol, mae gwerthoedd cyffredin yn dod i’r amlwg wrth lywio drwy fyd AI – gonestrwydd, cyfrifoldeb, chwilfrydedd a meddwl yn feirniadol.

Dadleuon moesegol am AI heddiw

Does gan AI ddim gwir ddealltwriaeth o ystyr, ond eto mae pobl yn dal i weithredu ar beth mae o’n ei ddweud. Mae hyn yn codi cwestiynau moesegol a chyfreithiol am atebolrwydd. Pwy sy’n gyfrifol os ydy AI yn creu cynnwys niweidiol? Pwy sy’n berchen ar y gwaith creadigol sy’n cael ei gynhyrchu efo teclynnau AI? ⁠Yn y DU, mae artistiaid fel Elton John a Paul McCartney wedi siarad yn gyhoeddus am hawlfraint, ac wedi gofyn a ddylai gwaith creadigol gael ei ddefnyddio, heb ganiatâd yr artist, i hyfforddi systemau AI. Mae’r dadleuon yma yn dangos bod cyfrifoldeb moesegol ar y defnyddwyr, yn ogystal â dylunwyr, cwmnïau, llywodraethau a phobl broffesiynol y dyfodol – yn cynnwys pobl ifanc heddiw.

Dod yn rhywun sy’n chwilio am y gwirionedd

Mae byw mewn oes o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn golygu dysgu sut i gwestiynu gwybodaeth yn ddoeth. Mi fedrwn ni ofyn cwestiynau fel:

  • Ddylwn ni ymddiried yn y wybodaeth dim ond oherwydd ei fod yn swnio’n hyderus?
  • Beth fedrith dysgeidiaethau crefyddol eu hawgrymu am wirio honiadau?
  • Pam fod y gwir yn bwysig i ddemocratiaeth, cymuned a chred?
  • Pa gyfrifoldebau sydd gennym ni pan fyddwn yn rhannu gwybodaeth ar-lein?
  • Sut fedrwn ni ddefnyddio AI yn gyfrifol?

Mae technoleg yn gallu ein helpu i ddysgu, creu a chysylltu, ond mae pobl yn dal i fod yn gyfrifol am benderfynu beth sy’n wir a beth sy’n dda. Drwy ofyn cwestiynau, chwilio am dystiolaeth, ac ymddwyn yn foesegol, mi allwn fod yn ddefnyddwyr meddylgar, a siapwyr y dyfodol o ran AI.

Dogfen Word

Dogfen PDF