Erthygl 3

Sut allai’r defnydd o AI effeithio ar amgylcheddau naturiol a dynol

Awdur: Neera Vyas

Sut allai’r defnydd o AI effeithio ar amgylcheddau naturiol a dynol

Mae bron popeth yr ydyn ni’n ei wneud ar-lein yn 2026 naill a<span></span>i’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) neu’n cynnwys yr opsiwn o ddefnyddio AI. Mae’n sydyn, yn hawdd ac yn arbed amser – felly pam ddim?

I rai pobl, mae pa mor gyflym mae’r dechnoleg yma yn datblygu, ar ben yr holl adnoddau naturiol mae hynny yn ei ddefnyddio, yn bryder mawr.

120KW yw maint y bwyler sydd ei angen i gynhesu warws mawr – dyma yn fras faint o wres sy’n cael ei ryddhau gan ganolfan ddata AI arferol. (Meddyliwch pa mor boeth mae eich iPad neu liniadur yn mynd mewn ychydig o oriau, a lluoswch hynny sawl gwaith!)

Mae 100 o eiriau sy’n cael eu hysgrifennu gan ddefnyddio ChatGPT yn gofyn am rywbeth tebyg i 500ml o ddŵr.

Mae canolfannau data mawr yn gallu defnyddio hyd at 19 miliwn litr o ddŵr bob dydd.

(Ffigyrau wedi’u cael o gylchgrawn y New Internationalist, 560, Mawrth-Ebrill 2026, https://newint.org/issues/ai-people-behind-machine)

Ydy’r wybodaeth yma yn eich synnu? 

Ydy hyn yn gwneud i chi feddwl am sut ydych chi’n defnyddio AI eich hun?

Beth yw canolfan ddata AI?

Ym mis Awst 2025, roedd 477 canolfan ddata ledled y Deyrnas Unedig. Mae canolfannau data yn warysau mawr (weithiau yn anferthol) sy’n llawn o gyfrifiaduron pwerus iawn, sy’n cael eu defnyddio i greu a rhedeg pob math o wasanaethau ar-lein, fel ffrydio, bancio a chynhyrchu traethodau.

Yn ôl ymchwiliad gan BBC News ym mis Awst 2025, mae’r nifer hwn i fod i gynyddu bron i un rhan o bump:

Construction researchers Barbour ABI have analysed planning documents and say that number is set to jump by almost 100, as the growth in artificial intelligence (AI) increases the need for processing power.

(BBC, 2025) : https://www.bbc.co.uk/news/articles/clyr9nx0jrzo

Mae adroddiad y BBC hefyd yn awgrymu bod cynlluniau i godi 9 canolfan ddata AI newydd yng Nghymru, yn cynnwys un yng Nghasnewydd, wedi’i ariannu gan Microsoft. Mae Microsoft yn ariannu canolfannau data AI ledled y byd, ar y cyd â chwmnïau mawr eraill fel Google, Amazon, Open AI a Meta.

Gyda’r rhan fwyaf o dechnolegau newydd, mae canolfannau data AI yn codi penbleth moesegol amgylcheddol ac mae dwy ochr i’r ddadl am eu bodolaeth ac am adeiladu mwy ohonyn nhw.

Manteision amgylcheddol

Mae AI yn gallu gwella bywydau pobl a’u cyfleoedd am swyddi drwy wella eu gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio technoleg. Er enghraifft, ysgrifennu CV, ymchwilio i brosiect neu draethawd, gweithio ar araith ar gyfer achlysur arbennig, fel priodas.

Mae AI yn gadael i bobl dros y byd gael mynediad rhwydd a rhad at wybodaeth, adloniant a newyddion.

Mae’r cwmnïau sy’n adeiladu’r canolfannau data AI yn addo creu llawer o swyddi gwahanol yn y maes adeiladu, cynnal a chadw a rhedeg canolfannau data AI. Er enghraifft, adeiladu, peirianneg, mewnbynnu a dadansoddi data, glanhau, ffreutur, diogelwch.

Mae’r cwmnïau hefyd yn addo gweithio tuag at unioni effaith amgylcheddol eu canolfannau. Er enghraifft, mae Google yn bwriadu defnyddio system aer-oeri (yn lle dŵr, fel sy’n cael ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o’r canolfannau) ar gyfer y ganolfan ddata AI newydd sy’n cael ei hadeiladu yn Hertfordshire (ger Llundain).

Byddai’n bosib creu’r trydan sydd ei angen i redeg y canolfannau data AI newydd gan ddefnyddio ynni solar a gwynt. Byddai hyn yn creu hyd yn oed mwy o swyddi mewn adeiladu a chynnal a chadw’r adnoddau yma, ac o bosib byddai’n rhoi ‘ynni gwyrdd’ i gymunedau lleol.

Anfanteision amgylcheddol

Dydi pobl sy’n poeni am ganolfannau data AI ddim yn siŵr y bydd yr addewidion amgylcheddol sy’n cael eu gwneud gan rai cwmnïau, yn cael eu cadw. Maen nhw’n nodi enghreifftiau o lefydd fel Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau lle mae cynlluniau i ddrilio am nwy naturiol, mwy o eneraduron trydan a mwy o ynni niwclear er mwyn cynhyrchu’r ynni sydd ei angen i redeg canolfannau data AI newydd anferthol.

Mae rhai pobl (yn cynnwys rhai yng Nghymru) yn bryderus am risgiau diogelwch posib ynni niwclear. Yn Pennsylvania, mae rhai dinasyddion yn poeni llawer y gallai’r ynni niwclear sydd wedi’i gynllunio fel rhan o’r cyflenwad ynni i’r canolfannau data AI newydd gynnwys ail-agor pwerdy Three Mile Island – bu ffrwydrad niwclear yno ym 1979.

Pryder arall yw beth fydd yn digwydd i’r tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y canolfannau data AI pan fyddan nhw wedi dyddio ac yn ddi-werth. Yn Pennsylvania, mae’r gwrthwynebwyr yn tynnu sylw at y llygredd, safleoedd diffaith a thirluniau creithiog sydd wedi cael eu gadael ar ôl pyllau glo, gweithfeydd dur a ffatrïoedd gweithgynhyrchu yn y gorffennol. Maen nhw’n poeni y bydd yr un peth yn digwydd pan na fydd canolfannau data AI yn cael eu defnyddio na’u hangen mwyach. Mae gorffennol diwydiannol tebyg i’w weld yng Nghymru hefyd gyda gweithfeydd glo, dur a gweithgynhyrchu yn gadael tirluniau wedi’u difrodi, ac felly mae hyn yn bryder i Gymru hefyd.

Mae’n bosib y byddai’r gwres sy’n cael ei greu gan ganolfannau data, y llygredd sy’n dod o greu ynni a’r defnydd mawr o ddŵr yn gallu effeithio ar gyflenwadau a chostau i bobl leol, a byddai hyn yn ychwanegu at y problemau y mae llawer yn eu hwynebu’n barod oherwydd biliau dŵr uchel a gwaharddiadau ar ddefnyddio pibelli dŵr (hosepipes).

Bydd angen i’r ynni sydd ei angen i gyflenwi trydan i’r canolfannau data AI newydd ddod o brosiectau ynni gwyrdd newydd ac anferthol (a allai effeithio ar dirluniau neu fferm-dir lleol); neu drwy losgi tanwyddau ffosil (a allai gyfrannu at lygredd aer a nwyon tŷ gwydr); neu drwy greu mwy o ynni niwclear (a allai fod â phryderon diogelwch).

Mae’r swyddi sy’n cael eu creu i gynllunio ac adeiladu’r canolfannau yn rhai tymor byr gan y byddan nhw’n dod i ben unwaith y bydd y gwaith wedi’i wneud, ac fe allai rhai cwmnïau ddod â’u staff eu hunain efo nhw ar gyfer nifer o swyddi yn lle recriwtio pobl leol, felly mae’n bosib na fyddai pobl leol yn elwa o’r gwaith adeiladu.

Mae’n bosib gwneud gwaith data o bell, felly mi allai’r cwmnïau redeg y canolfannau gyda staff o unrhyw le yn y byd, yn enwedig o lefydd lle y gallan nhw dalu cyflogau is. Er enghraifft, roedd gweithwyr data yn Kenya yn hyfforddi Chat GPT yn ennill $2 yr awr yn 2025 (tua £1.50), sydd gymaint is na’r lefel isafswm cyflog yn y DU, sef £8 (dan 18 oed), £10.85 (18-20 oed), £12.71 (dros 21 oed). Gallai hyn olygu na fydd pobl leol yn elwa o swyddi, ac mae rhai pobl yn ystyried bod hyn yn enghraifft o gam-fanteisio ar y tlawd, o ystyried bod perchnogion y cwmnïau AI mawr yn ennill biliynau. (Daeth y ffigyrau am weithwyr Kenya o gylchgrawn y New Internationalist (560) Mawrth-Ebrill 2026, gan ddefnyddio data o ‘The Hidden Cost of AI’ gan Uchechukwu Ajuzieogu yn Aylgorith Mehefin 2025 a.nin.tl/hiddencost. Daw’r ffigyrau am isafswm cyflog y DU o www.gov.uk). 

Mae’r rhan fwyaf o grefyddau’r byd yn dysgu am barchu’r Ddaear a’r holl bobl – byddai’r ‘anfanteision’ amgylcheddol uchod, a’r posibilrwydd o gam-fanteisio ar weithwyr o wledydd tlotach, felly yn achosi pryder. Er enghraifft, mae llawer o Gristnogion yn credu bod pobl yn stiwardiaid/gofalu am y Ddaear i Dduw, felly mae achosi difrod amgylcheddol yn niweidio creadigaeth Duw ac felly’n anghywir. Hefyd, roedd Iesu yn dysgu pobl i ofalu am ei gilydd a bod pawb yn gyfartal – byddai cam-fanteisio ar weithwyr yn mynd yn groes i orchymyn Iesu: ‘dylech chi drin pobl eraill fel y byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi’.

Mae llawer o bobl yn credu bod y Ddaear yn gysegredig gan ei bod wedi’i chreu gan y dwyfol. Mae llawer o bobl eraill yn credu bod yn rhaid i ni warchod y Ddaear a’r amgylchedd gan ein bod angen adnoddau naturiol, fel aer a dŵr glân, i oroesi. 

Mae nifer o Hindwiaid yn credu bod y Dwyfol/Duw yn rhan o bopeth – “I am the fresh taste of water, the light of the sun and moon…” (Bhagavad Gita 7:8), a phawb – “I reside in every heart...” (Bhagavad Gita 15:15). Felly, mae niweidio’r Ddaear neu bobl eraill hefyd yn niweidio’r Dwyfol. Yn ogystal, mae cyfraith karma yn dysgu ‘what goes around comes around’, sy’n golygu y bydd unrhyw niwed y byddwn yn gwybod ein bod yn ei wneud yn arwain at ganlyniadau yn y bywyd hwn neu fywyd arall. (Mae’r rhan fwyaf o Hindwiaid yn credu mewn ailymgnawdoliad –‘reincarnation’.)

Dogfen Word

Dogfen PDF