Erthygl 2
Cymdogion byd-eang:
Byw efo’n gilydd efo gwahaniaeth
Awdur: Gareth Evans-Jones
Cymdogion byd-eang – Byw efo’n gilydd efo gwahaniaeth
Os edrychwn ni o gwmpas unrhyw ddosbarth, stryd neu unrhyw le ar-lein, fe welwn ni hyn yn syth bin: gwahaniaeth. Mae pobl yn dathlu gwahanol wyliau, yn gwisgo dillad gwahanol, yn bwyta bwydydd gwahanol, yn siarad ieithoedd gwahanol, ac yn dilyn gwahanol gredoau, neu ddim credoau o gwbl. Mae’r amrywiaeth yma yn gallu bod yn ddifyr, yn greadigol, ac yn gyfoethog. Ond mae’n gallu teimlo’n anodd hefyd, yn enwedig pan fydd pobl methu deall ei gilydd. Felly, mae hyn yn codi cwestiwn mawr: ydi gwahaniaeth yn achosi problemau, neu ydi gwahaniaeth yn gallu bod yn gryfder?
Yn aml iawn, fydd gwrthdaro ddim yn dechrau oherwydd bod pobl yn wahanol, ond oherwydd bod gwahaniaeth yn cael ei gamddeall neu ei ofni. Mae’n rhaid i ni siarad efo’n gilydd, neu fel arall bydd ystrydebau yn gallu tyfu, a byddwn ni’n dechrau amau pobl. Dyma lle mae’r syniad o blwraliaeth yn bwysig. Tydi plwraliaeth ddim yn gwadu bod gwahaniaeth. Mae plwraliaeth yn dechrau drwy ‘nabod bod yna wahaniaeth, ac yna’n gofyn sut all pobl fyw yn well efo’i gilydd drwy groesawu’r amrywiaeth yma.
Beth yw deialog rhyng-ffydd?
Mae deialog rhyng-ffydd yn un ffordd ymarferol o roi sylw i blwraliaeth yn effeithiol. Yn syml, mae deialog rhyng-ffydd yn golygu siarad â phobl o wahanol gredoau, daliadau crefyddol ac athronyddol anghrefyddol, nid siarad amdanyn nhw. Mae’n golygu siarad cymaint â phosibl, holi cwestiynau yn barchus, a bod yn barod i ddysgu.
Wrth i ni drafod deialog rhyng-ffydd, mae llawer o fythau cyffredin yn codi, ac mae’n bwysig adnabod a herio nhw mewn ffordd barchus:
- Nid yw deialog rhyng-ffydd yn golygu newid yr hyn rydych chi’n ei gredu; yn lle hynny, mae’n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth.
- Nid yw hynny’n golygu bod pawb yn meddwl yr un fath yn y pendraw; byddai hynny yn mynd yn groes i’r holl syniad o blwraliaeth. Mae byw mewn byd plwralistig yn golygu bod pobl yn meddwl ac yn byw mewn ffyrdd gwahanol.
- Mae’n golygu dysgu sut i fyw efo’n gilydd gyda pharch, a gwneud efo’n gilydd a bod yn agored.
Mae deialog rhyng-ffydd yn bwysig i berthnasoedd. Mae’n bosib i chi gredu’n gryf yn yr hyn rydych chi’n credu ynddo, a chydnabod urddas a dynoliaeth rhywun sy’n credu mewn rhywbeth gwahanol i chi ar yr un pryd. Mae’r sgil yma yn arbennig o bwysig mewn byd sydd wedi’i globaleiddio, lle mae ein bywydau ni wedi’u cysylltu yn fwy nag erioed o’r blaen.
Gwerthoedd cyffredin ar draws credoau
Er bod credoau ac arferion yn gallu bod yn wahanol iawn, mae llawer o draddodiadau yn rhannu’r un gwerthoedd pwysig. Er enghraifft, caredigrwydd, cyfiawnder, heddwch, trugaredd, a pharch – mae’r rhain i’w gweld dro ar ôl tro ar draws crefyddau a safbwyntiau am y byd (bydolygon).
Mae llawer o draddodiadau – crefyddol ac anghrefyddol – yn annog pobl i ofalu am eu cymdogion, helpu’r rheiny sydd mewn angen, a gwrthod trais a chasineb. Tydi’r gwerthoedd cyffredin yma ddim yn cael gwared ar wahaniaeth, ond maen nhw’n creu tir cyffredin. Drwy gydnabod hyn, fe allwn ni gymharu credoau mewn ffordd barchus, yn hytrach na mewn ffordd gystadleuol.
Mae mudiadau fel Cymorth Cristnogol yn adeiladu ar y syniad yma drwy eu gwaith Cymdogion Byd-eang, sydd yn annog pobl ifanc i weld bod cyfiawnder, urddas, a gofalu am eraill yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd. Mae’r ffordd yma o feddwl yn dangos nad oes angen i ni gael union yr un credoau i weithio’n gyda’n gilydd am fyd tecach; y cwbl sydd angen yw parch a pharodrwydd i gydweithredu.
Pam bod gwrthdaro yn digwydd?
Wrth drafod perthnasoedd byd-eang, mae’n bwysig cydnabod bod gwrthdaro yn bod. Mae anghytuno yn gallu digwydd, ac yn digwydd – yn enwedig pan fo credoau yn teimlo’n bersonol iawn. Mae gwrthdaro yn aml yn digwydd oherwydd camddealltwriaeth neu ystrydebau, neu oherwydd bod gan bobl ofn rhywbeth gwahanol yn hytrach na bod y gwahaniaeth ei hun yn codi ofn arnyn nhw.
Meddyliwch am sefyllfa ddychmygol ond realistig: bod ysgol yn trefnu dathliad ar y cyd, ond bod rhai dysgwyr yn teimlo’n anghyfforddus oherwydd nad ydyn nhw’n deall cefndir crefyddol rhan o’r dathliad. Mae pobl yn siarad ac yn rhoi’r gorau i wrando. Ymhen amser, mae’r hyn ddaru ddechrau fel ansicrwydd yn troi’n densiwn.
Beth aeth o’i le yma? Mae’n debyg bod pobl wedi bod yn siarad am ei gilydd yn hytrach nag efo’i gilydd. Gallai siarad fod wedi helpu yn yr achos hwn trwy roi lle i ofyn cwestiynau, esbonio a chysuro. Nid yw gwrthdaro yn diflannu drwy fod yn dawel, ond mae’n bosib ei newid drwy ddeall.
Plwraliaeth: byw gyda gwahaniaeth
Mae plwraliaeth yn cynnig fframwaith ar gyfer byw efo’n gilydd mewn cymdeithasau amrywiol. Mae’n derbyn bod llawer o gredoau yn bodoli, yn amddiffyn hawl pawb i gredu (neu beidio â chredu), ac yn dewis cydweithredu yn lle gwrthdaro.
Rhywbeth pwysig i’w gofio yw nad yw plwraliaeth o reidrwydd yn golygu cytuno; yn lle hynny, mae’n golygu dangos parch. ‘Does dim rhaid i chi ddweud, ‘Dw i’n meddwl dy fod di’n iawn’ er mwyn dweud, ‘Dw i’n parchu dy hawl i fodoli, i gael dy glywed, ac i fyw’n ddiogel’. Yn hyn o beth, mae plwraliaeth yn sgil ymarferol ac yn syniad hefyd, oherwydd mae’n siapio sut rydym ni’n siarad, yn gwrando, ac yn gweithredu.
Cymru a heddwch: lleisiau pobl ifanc a rhannu cyfrifoldeb
Mae gan Gymru hanes hir ac unigryw o greu heddwch a chydweithredu yn rhyngwladol, ac mae pobl ifanc yn dal i gario’r traddodiad hwnnw ymlaen heddiw. Un enghraifft bwerus yw’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mae’r Urdd yn ei threfnu pob blwyddyn. Cafodd y neges gyntaf ei hanfon yn 1922, ac mae hi wedi cael ei rhannu pob blwyddyn ers hynny, felly dyma un o’r mentrau heddwch ieuenctid hynaf yn y byd.
Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Eädyth, Natalie Jones a Sunil Patel yng ngweithdy Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023
https://www.urdd.cymru/en/peace-and-goodwill/archive-message/neges-heddwch-ac-ewyllys-da-2023/
Mae’r Neges Heddwch wedi cael ei hysgrifennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Neges yn ymateb i faterion byd-eang heddiw fel rhyfel, anghyfiawnder, newid hinsawdd, pandemig, a gwahaniaethu. Bob blwyddyn, bydd pobl ifanc ar draws Cymru yn trafod beth sy’n digwydd yn y byd ac yn gweithio gyda’i gilydd i fynegi eu gobeithion am heddwch, urddas a dealltwriaeth. Mae’r neges yn cael ei rhannu ar 18 Mai (Diwrnod Ewyllys Da) a bellach yn cael ei chyfieithu i ddwsinau o ieithoedd a’i rhannu ar draws y byd trwy’r cyfryngau digidol. Mae ymatebion yn dod o bob cwr o’r byd, yn aml ar ffurf llythyrau, gwaith celf neu fideos, sy’n dangos bod lleisiau pobl ifanc yn gallu croesi ffiniau a chreu cysylltiad.
Mae’r traddodiad yma yn bwysig oherwydd y ffordd y caiff ei greu: trwy sgwrsio, gwrando, a rhannu cyfrifoldeb. Mae’n dysgu gwers hanfodol ar gyfer byw gyda gwahaniaeth: nid oes angen i chi fod yr un fath â rhywun arall er mwyn gofalu am eu diogelwch, eu hawliau a’u dyfodol.
Cafodd un Neges Heddwch yn ddiweddar ei chreu i anrhydeddu can mlynedd ers Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Dechreuodd yr ymgyrch arbennig hon yn 1923, pan arwyddodd bron i 400,000 o ferched Cymru ddeiseb – oedd yn saith milltir o hyd – yn galw am fyd heb ryfel. Cafodd y ddeiseb ei chario mewn cist dderw i’r Unol Daleithiau, ac roedd yn symbol o undod ar draws y cenhedloedd ar ôl dinistr y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Ddeiseb Heddwch a Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn dangos sut mae Cymru’n cysylltu lleisiau lleol â gobeithion ar draws y byd am heddwch.
https://www.library.wales/peacepetition
Symbolau heddwch: dysgu trwy Peace Mala
Enghraifft arall o fyw efo gwahaniaeth yw Peace Mala, sef prosiect addysg a gychwynnodd ar ôl trychineb 9/11. Mae Peace Mala yn defnyddio symbol syml ond bwerus: breichled efo dwy enfys arni.
Mae pob glain lliw ar y freichled yn cynrychioli llwybr ysbrydol, a’r glain yn y canol yw’r person sy’n gwisgo’r freichled a’r berthynas rhwng y cosmos cyfan. Mae’r ‘Edau Aur’ sy’n rhedeg drwy’r freichled yn symbol bwerus o’r Rheol Aur: trin eraill fel ag yr ydych chi eisiau i eraill eich trin chi. Drwy wneud a gwisgo’r freichled, mae hyn yn ffordd o ddysgu ac yn addewid i herio rhagfarn, dathlu amrywiaeth, a dewis bod yn dosturiol.
Mae Peace Mala yn arbennig o effeithiol er mwyn dysgu oherwydd mae’n bosib ei weld a’i gyffwrdd, ac mae’n helpu pobl ifanc o bob gallu i ddelio gyda syniadau cymhleth fel plwraliaeth, rhyngddibyniaeth, a pharch mewn ffordd sy’n golygu rhywbeth.
Breichled enfys Peace Mala
https://www.peacemala.org.uk/
Bod yn gymydog byd-eang
Nid yw bod yn ‘gymydog byd-eang’ yn golygu bod rhaid teithio o gwmpas y byd. Mae’n dechrau yn lleol mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a chymunedau, ac mae’n gallu cael effaith fyd-eang. Mae pawb yn gallu gwneud hyn drwy:
- Ofyn cwestiynau parchus yn lle tybio pethau.
- Herio ystrydebau pan fyddan nhw’n eu clywed nhw.
- Sefyll yn erbyn bwlio, hiliaeth, neu eithrio.
- Dysgu am gredoau a diwylliannau sy’n wahanol i’w rhai nhw.
Nid yw’n hawdd bob amser i ni fyw efo’n gilydd, ond wrth siarad, rhannu gwerthoedd, a pharchu ein gilydd, mae’n bosib i ni fyw yn heddychlon efo’n gilydd, ac mae’n rhywbeth y gallwn ni fod yn adeiladu arno. Felly, mae perthnasoedd iach a pharchus – ar draws y byd – yn hanfodol ar gyfer hyn. Fe allwn ni anghytuno, ond fe allwn ni barchu ein gilydd.
