Calendr

Mehefin

Mis Pride

Dathlu cymunedau LHDTC+ ledled y byd, i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a chefnogi eu hawliau i sicrhau cyfiawnder cyfartal a chyfle cyfartal.

Mehefin

Mis Cerddoriaeth Ddu

Cymerwch amser mis hwn i fwynhau treftadaeth gyfoethog Cerddoriaeth Ddu a’i dylanwad dwfn ar ddiwylliant poblogaidd, o R&B a Hip-Hop i gospel a jazz.

Mehefin

Mis Iechyd Meddwl Dynion

Mae Mehefin yn cael ei neilltuo i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion a’r heriau unigryw maen nhw’n eu hwynebu.

21 Mehefin

Hirddydd mis Mehefin (Paganiaeth)

Hirddydd mis Mehefin yw’r Heuldro’r Haf yn Hemisffer y Gogledd a’r Heuldro’r Gaeaf yn Hemisffer y De. Mae’r dydd hwn yn cael ei ddathlu i hyrwyddo gwerthoedd positif Dyneiddiaeth.

21 Mehefin

Diwrnod Dyneiddwyr y Byd

Mae’r dydd hwn yn cael ei ddathlu i hyrwyddo gwerthoedd positif Dyneiddiaeth.

21 Mehefin

Sul y Tadau

22 Mehefin

Diwrnod Windrush

Ar 22 Mehefin, 1948 glaniodd HMT Empire Windrush yn nociau Tilbury, gan gludo’r mewnfudwyr cyntaf o’r Caribî. Defnyddiwyd enw’r llong ar y cyfnod o ymfudo mawr o’r Caribî – Cenhedlaeth Windrush.

7 – 12 Gorffennaf

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru – gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân.

6 Gorffennaf

Pen-blwydd y Dalai Lama (Bwdhaeth)

10 Gorffennaf

Merthyrdod y Bab

Cofio’r digwyddiadau a amgylchynodd marwolaeth y Bab yn 1850.

15 Gorffennaf

Ratha Yatra (Hindŵaeth)

Gŵyl y Cerbydau. Mae Ratha Yatra yn cael ei ddathlu ledled y byd, ond mae’r dathliadau mwyaf enwog yn Puri, India. Cynhelir y dathliadau yn y Deml Jagannath yn Puri. Bydd gŵyl yn cael ei gynnal ar y 10fed Awst yng Nghaerdydd i ddathlu.

29 Gorffennaf

Asalha Puja (Bwdhaeth)

Gŵyl i gofio pregeth gyntaf y Bwdha, lle dysgodd am y Ffordd Ganol, y Pedwar Gwirionedd Nobl a’r Llwybr Wythblyg.

23 Gorffennaf

Pen-blwydd Haile Selassie (Rastaffariaid)

Un o ddyddiadau mwyaf sanctaidd y Rastaffariaid. Mae’n cael ei ddathlu gyda drymiau Nyahbinghi, emynau a gweddïau.

23 Gorffennaf

Tisha B’Av (Iddewiaeth)

Diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae’n eu hatgoffa o’r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes.

1 – 8 Awst

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

6 Awst

Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima

9 Awst

Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki

4 Medi

Krishna Janmashtami (Hindŵaeth) – Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna.

14 Medi

Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi (Hindŵaeth)

Gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka).

21 Medi

Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig

Diwrnod o gadoediad byd-eang a di-drais

https://www.un.org/en/observances/international-day-peace