Gwybodaeth

E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – cylchgrawn tymhorol

Croeso i’r ail rhifyn ar hugain o’r e-gylchgrawn i ddisgyblion 11-14 oed. Yn y rhifyn hwn bydd yr erthyglau yn trafod Mis Hanes Pobl Dduon.

Bwriad yr e-gylchgrawn tymhorol yma fydd i hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol. Bydd yr erthyglau hyn yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.

Nod hefyd yw annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a’u herio ac yn eu cymhwyso i fyw bywyd adeiladol yn y byd cyfoes.

 

  • Bydd y deunyddiau yn dangos sut y mae credoau a dysgeidiaethau yn dylanwadu ar fywydau pobl o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn fyd-eang.
  • Bydd y deunyddiau yn defnyddio’r ‘dimensiwn Cymreig’ fel y man cychwyn yn hytrach na chyfieithu neu addasu’r safbwynt Seisnig/Saesneg.
  • Bydd y deunyddiau yn datblygu dysgwyr ymchwilgar ac annibynnol, meithrin dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Bydd y deunyddiau yn datblygu amrediad eang o sgiliau darllen ac yn seiliedig ar y fath o sgiliau mae’r profion PISA yn profi.

Fel y gwelwch oddi fewn i’r e-gylchgrawn bydd:

  • o leiaf 3 erthygl (gyda delweddau i gyd fynd â’r cynnwys) ynglŷn â themâu penodol bob tymor – gall y rhain gyd fynd a themâu cenedlaethol/rhyngwladol neu’n adlewyrchu materion cyfoes ynglŷn â chrefydd;
  • y 3 erthygl wedi eu gwahaniaethu fel eu bod yn addas i ddarllenwyr o bob gallu ac yn cynnwys gweithgareddau a manylion tasgau estynedig priodol (o fewn y canllawiau athrawon);
  • termiadur/geirfa allweddol lle bydd posib i ddysgwyr ddarganfod ystyr termau penodol;
  • bydd modd clicio / hofran dros eiriau allweddol o fewn erthyglau er mwyn cael diffiniad syml ohono;
  • canllaw athro yn amlygu gweithgareddau yn gysylltiedig â phob erthygl yn cynnig rhestr o dasgau ar ffurf Word/PDF fydd yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm newydd ynghyd â’r disgrifiadau dysgu a chamau cynnydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau;
  • cysylltiadau i gredoau ac arferion (linciau i dudalennau gwe allanol) er mwyn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth gywir, gyfoes a diduedd am gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol;
  • gweithgareddau munud i feddwl a ‘podlediadau’ eraill gyda manylion tasgau estynedig ar gyfer dysgwyr;
  • calendr o ddathliadau/dyddiadau crefyddol.

Mae modd llywio i’r erthyglau (sydd ar ffurf Word / PDF) o’r tudalen blaen. Yma hefyd bydd blwch chwilio ble all y defnyddiwr ganfod erthyglau o ôl-rifynnau.

Rhifyn 25

Awduron: Huw Dylan, Noel Dyer, Llio Owen.

Golygu: Dyfed Roberts.

Datblygwyd gan: Gwasanaeth Dysgu Digidol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.
ymholiadau@gwasanaethdysgudigidol.cymru

Delwedd a Ffotograffiaeth:

Ingimage, Wikipedia, Wikimedia Commons, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, freedomfromtorture.org, BBC, Comisiynydd Plant Cymru.